Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Polisi morol yng Nghymru
MP 09 Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
![]() |
YMCHWILIAD PWYLLGOR AMGYLCHEDD A CHYNALIADWYEDD CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU: POLISI MOROL YNG NGHYMRU
CYFLWYNIAD GAN ASIANTAETH YR AMGYLCHEDD CYMRU
1.0 CRYNODEB
1.1 Rydyn ni’n falch o gael y cyfle i gyflwyno'n sylwadau i Ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi morol yng Nghymru.
2.0 EIN SWYDDOGAETH
2.1 Swydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yw gwarchod a gwella’r amgylchedd, hyrwyddo datblygu cynaliadwy a gwneud Cymru’n lle gwell.
2.2 Rydyn ni’n chwarae rhan flaenllaw mewn rheoli aberoedd a dyfroedd Cymru a Lloegr yn gynaliadwy, gan gynnwys:
· rheoleiddio gollyngiadau llygredd hyd at dair milltir forol oddi wrth ffynonellau ar y tir;
· monitro a rheoli peryglon llifogydd ac erydu arfordirol;
· rheoli pysgodfeydd mudol (hyd at chwe milltir forol);
· gwarchod a gwella bioamrywiaeth;
· awdurdod cymwys y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (hyd at un filltir forol).
· Awdurdod Porthladd Statudol ac Awdurdod Goleudy Lleol yn aber Afon Dyfrdwy.
2.3 Rydyn ni’n gorff ymgynghorol dynodedig o dan y rheoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Effaith Amgylcheddol. Rydyn ni’n ceisio sicrhau fod unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol cynlluniau a rhaglenni ar yr amgylchedd yn cael eu lleihau a hefyd wneud y gorau o unrhyw effeithiau llesol. Rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth o’r symudiad arfaethedig at ddull ecosystemau, sy’n cael ei grybwyll yn Cynnal Cymru Fyw wrth ymateb i ymgynghoriadau Asesiad Amgylcheddol Strategol. Rydyn ni hefyd yn ymgynghorai statudol mewn cynllunio gwlad a thref, y broses Asesiad Effeithiau Amgylcheddol ac yn ymgynghorydd ar gyfer trwyddedu morol.
2.4 Mae gennym ni rôl sylweddol mewn paratoi ar gyfer digwyddiadau morol pan fydd llygredd yn cael ei olwg ac yn dod at y tir.Rydyn ni hefyd yn gweithio i sicrhau fod amgylchedd Cymru’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd, yn enwedig y peryglon cynyddol o lifogydd o bob ffynhonnell a’r pwysau cynyddol ar argaeledd dŵr i bobl ac i fywyd gwyllt.
2.5 Rydyn ni wedi bod â rhan ym mhrosiect parthau cadwraeth morol Llywodraeth Cymru ac yn cyflwyno cyngor ar ddatblygu cynllunio gofodol morol.
3.0 SYLWADAU CYFFREDINOL
3.1 Mae’r arfordir a’r moroedd yn hanfodol i economi, iechyd a lles Cymru. Mae newid hinsawdd, erydu arfordirol a cholli cynefin yn dod yn fygythiad cynyddol i’r amgylchedd forol ac i’r rhai sy’n dibynnu arni.
3.2 Dylid rhoi rhagor o flaenoriaeth i’r amgylchedd forol os ydym i gyrraedd y weledigaeth o “gefnforoedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol ac amrywiol yn fiolegol”. Mae’r Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (y “Ddeddf Forol”) yn sefydlu amddiffyniadau amgylcheddol newydd pwysig a dull cyfun o gynllunio, rheoleiddio a rheoli bioamrywiaeth ar dir a môr.
3.3 Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru i sicrhau fod gennyn ni ddealltwriaeth gyffredin a hefyd, os yn ymarferol, ein bod yn cyfuno ein dulliau o daclo a rhwystro problemau yn yr amgylchedd forol. Mae’r ymateb hwn yn canolbwyntio ar y meysydd sydd fwyaf perthnasol i'n swyddogaeth ni ond nid yw'n talu sylw manwl i feysydd lle mae'r Cyngor Cefn Gwlad yn gallu cynghori'n well.
3.4 Mae ffurfio Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn gyfle i ddwyn ynghyd ac i adeiladu ar y sgiliau a’r arbenigedd sy'n bodoli ar hyn o bryd, fodd bynnag bydd yn rhaid iddo gael digon o adnoddau a chydweithio â phartneriaid er mwyn llwyddo yn y maes morol.
4.0 YMATEB I YSTYRIAETHAU PENODOL YR YMCHWILIAD
4.1 Pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran datblygu cynlluniau gofodol morol ar gyfer Cymru?
4.1.1 Mae cynllunio gofodol morol yn gyfle i ddatblygu dulliau strategol a chyfun o reoli’r nifer o’r gwahanol ddefnyddiau o'r amgylchedd forol yn ogystal ag o ddylanwadu ar reolaeth gweithgareddau heblaw rhai morol a allai fod yn effeithio ar yr amgylchedd forol.
4.1.2 Un cam allweddol at wireddu’r weledigaeth oedd mabwysiadu’r Datganiad Polisi Morol ledled y DU. Fodd bynnag, dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru'n datblygu cynllunio gofodol morol yng Nghymru a, thrwy'r broses honno, yn dehongli'r Datganiad Polisi Morol, yn mynegi’r blaenoriaethau cymharol ac yn rhoi cyfeiriad cryfach y bydd y manteision llawn yn cael eu gwireddu. Rydyn ni’n pryderu y bydd diffyg cynnydd yn y maes yma’n golygu y bydd cyfleoedd yn cael eu colli, yn enwedig ynghylch gweithio ar draws ffiniau gwleidyddol.
4.1.3 Rydyn ni’n cefnogi dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynlluniau gofodol morol yn seiliedig ar ddull ecosystemau. I fod yn effeithiol, bydd yn rhaid i bob cynllun gael ei gefnogi gan sylfaen o dystiolaeth gadarn. Bydd hyn yn gofyn am sefydlu dull cyson o benderfynu ar drwyddedu morol.
4.1.4 Bydd yn rhaid i gynlluniau morol dalu sylw i effeithiau newid hinsawdd a hefyd, yr un pryd, gydnabod y cyfraniad y gall yr amgylchedd forol ei wneud i daclo ei achosion e.e. cynhyrchu ynni adnewyddol.
4.1.5 Mae’n bwysig bod y system cynllunio morol yn cyfuno â’r systemau cynllunio ar gyfer defnydd tir, rheoli basn afon a rheoli traethlin. A hefyd gysylltu â chymunedau arfordirol a chydbwyso datblygu gyda gwarchod yr amgylchedd.
4.2 Beth yw statws presennol ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru a pha rôl ddylai'r parthau cadwraeth morol newydd ei gael yn y rhwydwaith hwn o ardaloedd o dan warchodaeth?
4.2.1 Mae 75% o arfordir Cymru a 40% o foroedd Cymru’n cael eu gwarchod gan ddynodiadau megis Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, mae pob un yn fath o Ardal Forol Warchodedig. Rydyn ni’n cefnogi dull Llywodraeth Cymru o wella’r rhwydwaith hwn drwy nodi safleoedd gwarchodedig iawn. O gofio’r effaith y gallai safleoedd gwarchodedig ei gael ar ddefnyddiau eraill yn yr amgylchedd forol, mae'n bwysig fod y cyfiawnhad dros gefnogi penderfyniadau ar faint a lleoliad Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael ei seilio ar dystiolaeth amgylcheddol gadarn ac yn talu sylw i effeithiau cymdeithasol ac economaidd.
4.2.2 Rydyn ni o’r farn y gallai Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael eu rheoli’n dda gyfrannu at amddiffyn a chynyddu gwytnwch bioamrywiaeth y môr ac addasu i bwysau newid hinsawdd. Mae gofyn i ni hefyd sicrhau fod cynefinoedd bregus yr arfordir (e.e. morfa heli), a chynefinoedd aberoedd sy'n feithrinfeydd i bysgod y môr ac yn llwybr i bysgod yn mudo, yn cael eu gwarchod. Gall cynefinoedd yr arfordir, megis morfa heli, hefyd fod yn amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd.
4.2.3 Rydyn ni o’r farn ei bod yn bwysig fod amcanion cadwraeth a rheolaeth yn benodol, yn glir, yn ymarferol ac yn defnyddio dulliau'n seiliedig ar risg.
4.3 Datblygiad rôl Llywodraeth Cymru mewn trwyddedu morol a physgodfeydd ac a fu hyn yn effeithiol?
4.3.1 Mae amddiffyn a datblygu’r arfordir, echdynnu mwynau a gollwng yn yr amgylchedd forol oll yn cael eu datblygu drwy drefn reolaethol o drwyddedau morol. Mae’r rhain yn cael eu penderfynu ar hyn o bryd gan Uned Caniatadau Morol Llywodraeth Cymru sydd i fod i drosglwyddo i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru. Mae
4.3.2 Rydyn ni’n gweithio gyda Defra a’r Sefydliad Rheoli Morol ar eithriadau a chynigion newydd ar gyfer sefydlu system llwybr carlam o drwyddedu yn Lloegr. Rydyn ni'n cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y ddeddfwriaeth yng Nghymru.
4.3.3 Rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu canllawiau ar gyfer ystyried y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wrth benderfynu ar drwyddedau morol, datblygu canllawiau ar y we ar gyfer busnesau ac wedi cael gwared ar yr angen am drwyddedau os yw trwydded forol yn rhoi digon o warchodaeth.
4.3.4 Mae'r Ddeddf Forol yn galluogi Llywodraeth Cymru i ysgwyddo holl gyfrifoldebau rheoli pysgodfeydd morol. Mae ein rôl fel deiliaid y Gorchmynion Rheoleiddio Cocos Cilfach Tywyn ac Aber Afon Dyfrdwy yn dangos newid mawr yn y ffordd y mae pysgodfeydd yn cael eu rheoli. Bu hyn yn llwyddiant ac mae wedi gosod y sylfaeni ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy i'r ddwy bysgodfa. Mae’r Ddeddf Forol hefyd wedi cryfhau ein rôl o ran pysgod mudol megis lamprai’r môr, gwyniaid a gwangod.
4.3.5 Mae gan ein Swyddogion Gorfodaeth warant gyffredin gyda swyddogion morol Llywodraeth Cymru ac yn gallu, felly, gorfodi is-ddeddfau pysgodfeydd morol, er nad oes gennym hawl gyfreithiol i erlyn is-ddeddfau, sy'n cyd-fynd yn agos iawn ag amddiffyn pysgod y môr. Gall hyn arwain at ddryswch ynghylch pa awdurdod a ddylai fod yn erlyn. Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i unioni hyn.
4.3.6 Ein dymuniad ni yw bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r pwerau i ni fel bod gan ein swyddogion gorfodaeth hawl i arestio wrth orfodi is-ddeddfau pysgodfeydd y môr yn gyffredinol a rheoleiddio pysgodfeydd cocos yn benodol. Heb y pwerau hyn, mae ein pwerau gorfodaeth yn cael eu cyfyngu’n arw.
4.4 Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud wrth weithredu Cyfarwyddebau allweddol Ewrop?
4.4.1 Cynnydd gyda’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewropeaidd yn fframwaith gyffredin ar gyfer rheoli’r gweithgareddau a’r pwysau sy’n effeithio ar ein hamgylchedd dŵr allan hyd at un filltir forol. Rydyn ni ar y cyntaf o dri chylch o gynllunio a darparu sy’n anelu at gyrraedd statws ecolegol da erbyn 2027. Mae’r Cynlluniau Rheoli Basn Afon cyntaf (2009-2015) yn dangos fod 33% o holl gyrff dŵr Cymru, yn 2009, yn cyfarfod ag amcan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr o Statws Ecolegol Da. Ein huchelgais yw llwyddo i gael 50% erbyn 2015.
Mae dyfroedd aberoedd a’r arfordir yn helaeth a chymhleth. Yn 2009, roedd 44% o ddyfroedd ein haberoedd a’n harfordir yn cael eu dosbarthu fel rhai â statws ecolegol da.
Bydd adfer cyfanrwydd ecolegol amgylchedd dŵr Cymru yn gofyn am fuddsoddiad arwyddocaol o arian ac adnoddau dros flynyddoedd lawer ac nid yw hynny’n rhywbeth y gall Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ei ddarparu ar ei phen ei hun - bydd yn rhaid i nifer o sefydliadau weithio mewn partneriaeth.
Fis Ebrill 2012, dyrannodd Llywodraeth Cymru £400,000 i ni i hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth gyda Sefydliadau’r Trydydd Sector. Mae gweithio gyda Sefydliadau’r Trydydd Sector yn ffordd effeithiol ac effeithlon o gael gwelliannau amgylcheddol ac mae yna fanteision ehangach hefyd, er enghraifft, i’r economi leol ac i dwristiaeth yn ogystal â chyfle i wirfoddoli a chael hyfforddiant. O brofiad y gwersi a ddysgwyd yng Nghymru ac mewn mannau eraill, rydyn ni o'r farn y byddai ariannu gwaith adfer drwy gytundebau adfer gyda phartneriaethau strategol yn arwain at brosiectau gwell a hefyd at fwy o welliannau amgylcheddol.
4.4.2 Cynnydd gyda’r Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi
Gwnaed cynnydd da i gyrraedd y safonau dŵr ymdrochi. Mae ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru wedi gwella’n sylweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Y llynedd, llwyddodd 98.9% o’r dyfroedd ymdrochi i gyrraedd safonau ansawdd dŵr. Eleni, cafwyd y glaw trymaf mewn cof fis Mehefin a fis Gorffennaf ac mae hynny wedi effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi mewn tua 100 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig. Rydyn ni’n disgwyl y bydd rhagor yn methu oherwydd y tywydd.
Bydd yn rhaid i Gymru lwyddo i gyrraedd safonau ansawdd dŵr llymach o dan y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi diwygiedig yn 2015. Bydd hyn yn hynod o anodd. Rydyn ni’n canolbwyntio ar daclo llygredd cyn y daw’r safonau newydd i rym.
Bydd heriau newydd yn codi pan fydd Dyfroedd Ymdrochi newydd yn cael eu dynodi a bydd hynny’n arwain at gynnydd yn y gofyn am ein hadnoddau ac am ragor o fuddsoddi gan y cwmnïau dŵr.
4.4.3 Cynnydd gyda Chyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol
Mae’r Gyfarwyddeb hon yn ei dyddiau cynnar. Rydyn ni’n aelod o grŵp llywio’r Gyfarwyddeb ac o grwpiau tystiolaeth y DU.
Rydyn ni’n cefnogi’r cynigion ar gyfer Statws Amgylcheddol Da a'r ymrwymiad y mae Gweinyddiaethau'r DU wedi'i wneud i weithredu'r Gyfarwyddeb mewn ffordd sydd mor gyson â phosibl â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
4.5 A oes yna ddigon o gydweithredu ac o gydlynu rhwng Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau cyfagos o ran rheoli ei moroedd?
4.5.1 Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i weithio gyda gweinyddiaethau eraill ac yn enwedig gyda’r Sefydliad Rheoli Morol ar gynllunio gofodol morol. Bydd hyn o gymorth gyda’r gymysgedd o gyfrifoldebau, rhai wedi'u datganoli a rhai heb eu datganoli, a bydd rhannu'r canlyniadau a dulliau sy'n cyd-fynd yn arwain yn y pen draw at ganlyniadau gwell i'r amgylchedd. Mae hyn yn hynod o bwysig mewn aberoedd traws ffiniol.
4.5.2 Mae’n hanfodol fod y perthynasau gwaith cryf ar draws y gweinyddiaethau a’r asiantaethau statudol yn parhau ar ôl sefydlu Corff Adnoddau Naturiol Cymru.
4.6 A oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o adnoddau, o ran arian a staff, i gyrraedd ei amcanion polisi a deddfwriaeth forol?
4.6.1 Ni ellir gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o foroedd a chefnforoedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol heb ddatrys problemau, cyd-ddibyniaethau ac effeithiau cymhleth. Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru a sefydliadau partner fod â digon o adnoddau a gallu i sefydlu sylfaen o dystiolaeth, i gydweithio â rhanddeiliaid ac i ddarparu meysydd newydd o waith morol yn effeithiol.
4.6.2 Rydyn ni o’r farn nad oes yna ddigon o adnoddau ar gael ar hyn o bryd. Rydyn ni hefyd yn awgrymu y dylai Corff Adnoddau Naturiol Cymru gael tîm morol dynodedig i ganolbwyntio a gosod blaenoriaeth er mwyn llwyddo i gael canlyniadau morol.
4.6.3 Mae yna ryng-ddibyniaeth gref ar arfordir Cymru rhwng lles cymdeithasol, twf economaidd ac amgylchedd lân a deniadol. Rydyn ni’n amlwg yn cydnabod cyfyngiadau’r hinsawdd ariannol presennol. Fodd bynnag, yn ein barn ni, byddai cymryd penderfyniadau mewn ffordd fwy unol yn gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau naturiol ac ariannol Cymru ac yn arwain at ganlyniadau ar ein harfordir a fyddai’n gynaliadwy yn y dyfodol.
4.7 A oedd gan randdeiliaid ddigon o ran mewn ffurfio polisïau a datblygu deddfwriaeth newydd?
4.7.1 Rydyn ni wedi, a byddwn yn dal, i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu dulliau Llywodraeth Cymru o reoli’r amgylchedd forol gan gynnwys cynghori ar:
· Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir
· Y Strategaeth Ddatblygu ar gyfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
· Dulliau o Gynllunio Morol yng Nghymru
· Y Dewisiadau ar gyfer Parthau Cadwraeth Morol
· Amddiffyn Arfordir Cymru
4.7.2 Rydyn ni’n cydnabod y gallai asiantaethau anstatudol eraill, sefydliadau llai, cymunedau ac unigolion ei chael yn anodd canfod yr amser i ddeall a chyfrannu’n effeithiol at ffurfio polisïau newydd. Er mwyn hyrwyddo cyfranogaeth wirioneddol, mae gofyn i ni ganfod ffordd o rannu tystiolaeth a gwybodaeth dechnegol gymhleth. Rydyn ni’n cefnogi defnydd Llywodraeth Cymru o Bartneriaeth Arfordir Morol Cymru a phartneriaethau arfordirol eraill fel ffordd o gysylltu â grwpiau ehangach o randdeiliaid.
GWYBODAETH BELLACH
Mae rhagor o wybodaeth ar y cefndir i’r ymateb hwn ar gael gan
Ceri Davies, Rheolwr Uned Strategol Cymru
Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.
02920 466047
ceri.davies@environment-agency.gov.uk
21 Medi 2012